THE EYE International Photography Festival 2024 / Gŵyl Ffotograffiaeth Ryngwladol 2024

Siaradwyr gwych!

Unwaith eto, 'rydym wedi trefnu cymysgedd amryfal o unigolion talentog sy'n gweithio mewn gwahanol genres ffotograffiaeth fel siaradwyr yr Ŵyl - felly mae 'na siwr o fod rhywbeth o ddiddordeb i bawb.

Yn y gorffennol ein rhaglen o siaradwyr dros benwythnos yr Ŵyl oedd y prif destun trafod ymysg mynychwyr yr Ŵyl a chredwn ein bod wedi codi i'r sialens eto ar gyfer 2018. Mae'n rhestr yn cynnwys y ffotograffydd portreadau stryd Prydeinig uchel ei barch Niall McDiarmid (yn arddangos ar hyn o bryd yn Sefydliad Martin Parr ym Mryste); y ffotograffydd dogfennol diwylliannol ac aelod y 'VII Agency' Jocelyn Bain Hogg; y ffoto-ohebyddion arobryn Danilo Balducci a Kate Holt; y ffotograffydd plât-gwlyb Kasia Wozniak; y golygydd ffotograffiaeth Neil Bennett o Awstralia a'r artist/ffotograffydd Helen Marshall.
 
Fel arfer, mae awyrgylch cyfeillgar yr Ŵyl a'r Ganolfan yn golygu y ceir digon o gyfleoedd i gyfarfod a sgwrsio gyda'n siaradwyr dros benwythnos yr Ŵyl.

Niall McDiarmid

Ffotograffydd Dogfennol

Kasia Wozniak

Ffotograffydd plât-gwlyb

Danilo Balducci

Ffoto-ohebydd

Kate Holt

Ffoto-ohebydd

 

Neil Bennett

Golygydd Lluniau

Helen Marshall

Artist / Ffotograffydd

José Sarmento Matos

Ffotograffydd Dogfennol

 
purple strap.jpg
Niall_speakers circle.png

Niall McDiarmid

Ffotograffydd Dogfennol

 
 

Mae Niall McDiarmid yn ffotograffydd o'r Alban sy'n gweithio yn Llundain.

Mae ei waith yn ffocysu'n bennaf ar ddogfennu pobl a thirwedd Prydain. Mae ei ddull ymlaciol o dreulio cyfnodau byrion yn crwydro strydoedd llefydd anghyfarwydd yn caniatau iddo wylio nid yn unig y cymeriadau, ond hefyd y lliwiau, manylion a gweadweithiau cyflenwol sydd o'u cwmpas.  Mae ei lyfrau yn cynnwys Crossing Paths (2013), Via Vauxhall (2015) a'r diweddaraf, Town To Town (2018).

Gan gydnabod pwysigrwydd portreadau Niall a grewyd ledled Prydain, nodweddwyd detholiad sylweddol o'i waith yn yr arddangosfa gyntaf ar gyfer ffotograffwyr gwâdd a gynhaliwyd yn y Sefydliad Martin Parr newydd ym Mryste, yn gynnar yn 2018.

Cynrychiolir portreadau Niall yng nghasgliadau Amgueddfa Llundain, yr Oriel Bortread Genedlaethol a Chasgliad Ffotograffig Syr Elton John.

www.niallmcdiarmid.com

 
 

Holl ddelweddau © Niall McDiarmid. Fe'u defnyddir yma gyda chaniatâd.

purple strap.jpg
kazia wozniak pic

Kasia Wozniak

Ffotograffydd plât-gwlyb

 
 

Mae Kasia Wozniak yn ffotograffydd sy'n arbenigo yn y proses Colodion Plât-Gwlyb.

Dyma un o'r technegau ffotograffiaeth cyntaf sy'n dyddio'n ôl i ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae'r ffotograff yn ganlyniad i seremoni ffotograffig, yn dechrau gyda pharatoi toddiannau cemegol, arllwys y toddiant negyddol ar y plât gwydr, ac wedyn gosod y plât yn y camera a'i ddatguddio i'r gwrthrych. Daw'r seremoni i ben gyda datblygu'r ddelwedd yn yr ystafell dywyll. Wedyn daw'r plât sefydlog yn ffotograff a grefftir â'r llaw.

Mae Kasia Wozniak yn ymddiddori'n fawr yn y syniad o greu delwedd ffotografig sy'n barhaol ac yn fregus, yn ymgrynhoi elfen hanfodol y ffotograff a grewyd unwaith ac unwaith yn unig, mewn ennyd na ellir ei brofi eto. Ar yr un pryd, mae hi'n ystyried y perthynas rhwng y ffotograffydd, yr eisteddwr a'r gwyliwr. Mae ei gwaith yn cwestiynu dilysrwydd y ddelwedd a sut yr ydym yn gweld ffotograffau yn y dydd cyfoes. Mae'n cwestiynu sut y gall y ddelwedd ffotograffig ddod yn wrthrych yn ei rinwedd ei hun yn yr oes ddelweddu digidol.

Mae Kasia wedi bod yn ddarlithydd gwâdd ac yn arweinydd gweithdai ym Mhrifysgol y Celfyddydau yn Llundain a Phrifysgol y Celfyddydau, Norwich.

Wedi'i geni yng ngwlad Pwyl ym 1983, mae'n byw ac yn gweithio ar hyn o bryd yn Llundain.

kasiaw.com

 
 

Holl ddelweddau © Kasia Wozniak. Fe'u defnyddir yma gyda chaniatâd.
Portread o Kasia © Lily Bertrand-Webb

purple strap.jpg
danilo_circle.png

Danilo Balducci

Ffoto-ohebydd

 

Mae Danilo Balducci yn ffoto-ohebydd proffesiynol aml-arobryn.

Wedi'i eni yn L'Aquila, yr Eidal ym 1971, graddiodd o'r Uwch Sefydliad Ffotograffiaeth a Chyfathrebu Integredig yn Rhufain ac mae wedi gweithio fel ffotograffydd proffesiynol yn rhyngwladol ers 1999.

Defnyddiwyd ei waith mewn papurau newydd a chylchgronau cenedlaethol a rhyngwladol ac mae wedi arddangos ei waith ledled y byd gan ennill llu o wobrau uchel eu bri gan gynnwys gwobr 1af am stori mewn llun yng Ngwobrau Ffotograffiaeth yr Eidal a Gwobrau Ffotograffiaeth Tokyo a Ffotograffyd y Flwyddyn yng Ngwobrau'r B&W Spider - y cyfan yn ystod 2017.

Mae ei lyfr diweddaraf, 'La Linea Invisible' (Y Llinell Anweladwy) yn cofnodi'r sefyllfa ymfudo sy'n bodoli ar draws Ewrop.

Yn ogystal â'i waith fel ffoto-ohebydd, mae Danilo yn broffesor mewn ffotograffiaeth a chroniclad yn Academi'r Celfyddydau Cain yn L'Aquila

www.danilobalducci.photoshelter.com

 
 

Holl ddelweddau © Danilo Balducci. Fe'u defnyddir yma gyda chaniatâd.

purple strap.jpg
kate_circle.png

Kate Holt

Ffoto-ohebydd

 

Mae Kate Holt yn ffoto-ohebydd ac yn sefydlydd Arete.

Dechreuodd ar ei gyrfa yn gweithio yn ystafell newyddion y BBC yn Llundain. Ei phrofiad cyntaf yn y maes oedd yn Kosovo ym 1999 yn cofnodi effeithiau'r gwrthdaro ar y boblogaeth sifilaidd. Ers hynny mae wedi teithio'n helaeth yn dogfennu ffoaduriaid ac effeithiau rhyfel a thlodi yng Ngweriniaeth Ddemocrataidd y Congo, Somalia, Cenia, y Swdan, Simbabwe, Irac, Afghanistan ac Haiti.

Dros y deuddeng mlynedd diwethaf mae wedi gweithio'n rheolaidd fel ffotograffydd i nifer o fudiadau megis UNICEF, Gofal Rhyngwladol, Jhpiego, y Groes Goch Rynglwadol, MSF ac OXFAM. Mae hi'n cyfrannu'n rheolaidd at y BBC, y Guardian a'r Mail on Sunday ac mae hefyd wedi  cyhoeddi gwaith yn yr Independent, y Times, yr Observer, y Telegraph a'r Financial Times.

Wedi'i henwebu sawl tro ar gyfer Gwobr Amnest am groniclo a ffotograffiaeth ddyngarol, mae Kate yn meddu ar MA mewn Hanes Celf a diploma ôl-raddedig mewn ffotonewyddiaduraeth.

aretestories.com

 

Holl ddelweddau © Kate Holt. Fe'u defnyddir yma gyda chaniatâd.

purple strap.jpg
Neil Bennett portrait

Neil Bennett

Golygydd Lluniau

 

Mae Neil Bennett yn olygydd lluniau ac yn ffotograffydd arobryn yn byw yn Sydney, Awstralia.

Dechreuodd ar ei yrfa broffesiynol fel ffotograffydd dan hyfforddiant ym 1989, sef blwyddyn wych olaf yr ystafell dywyll ddu a gwyn yn adran ffotograffig chwedlonol y  Western Mail and Echo yng Nghaerdydd. Dros y tri degawd diwethaf mae wedi gweithio i wahanol bapurau newydd a chylchgronau yn y DU, yr UD, ac Awstralia yn cynnwys y Guardian, y BBC, Big Pictures a'r Sunday Herald yn yr Alban. Fel golygydd lluniau, ffotograffydd staff a dirprwy olygydd, mae ei yrfa wedi mynd ag ef ar deithiau i Efrog Newydd, Ethiopia, Washington a Tasmania.

Neil ar hyn o bryd yw'r Rheolwr Ffotograffig Cenedlaethol ar gyfer 'News Corporation', prif gyhoeddwr Awstralia sydd â'i bencadlys yn Sydney, ar ôl ymfudo yn 2008. Ers ymuno â 'News Corp' mae wedi rheoli dros 80 o ffotograffwyr a staff y ddesg luniau. Mae'n mwynhau meithrin pobl ifanc dan hyffroddiant ac ysbrydoli ffotograffwyr mwy profiadol.

Mae Neil dal wrth ei fodd yn creu lluniau a chred fod Robert Capa, Sefydlydd Magnum, yn berffaith gywir pan ddywedodd "Os nad yw eich ffotograffwyr yn ddigon da, nid ydych yn ddigon agos”

instagram.com/bennettpix

 
 
purple strap.jpg
Helen Marshall portrait

Helen Marshall

Artist / Ffotograffydd

 

Artist Prydeinig yw Helen Marshall gyda ffotograffiaeth a'r cyfryngau newydd wrth wraidd ei hymarfer.

Mae wedi ennill enw da am ei gwaith cyfranogol sy'n ymwneud â chymdeithas yn y byd cyhoeddus. Ymddengys ei gwaith mewn casgliadau preifat a chyhoeddus. Yn 2016 sefydlodd Ddarlun y Bobl, platfform unigryw ar gyfer ei phortffolio cynyddol o waith murol ffotograffig yn cyfuno miloedd o ffotograffau i adrodd stori, yn coffáu achlysur pwysig neu i ddenu sylw at faterion cymdeithasol o bwys.

Mae Helen wedi ennill gwobrau niferus gan gynnwys Gwobr Ryngwladol Nikon NPCI Siapan ac mae wedi arddangos ei gwaith yn helaeth mewn arddangosfeydd ledled y DU ac yn rhyngwladol yn Indonesia a Tsieina yn ogystal â Gogledd Carolina a Florida yn Unol Daleithiau America.

Mae hi wedi cynhyrchu arddangosfeydd a chomisiynau ar gyfer Amgueddfa Horniman, Teledu'r BBC, Tate Britain, ac Oriel y Ffotograffwyr.

www.helenmarshall.co.uk

 
 

Holl ddelweddau © Helen Marshall. Fe'u defnyddir yma gyda chaniatâd.

purple strap.jpg
Jose speakers circle.png

José Sarmento Matos

Documentary Photographer

 
 

José Sarmento Matos is a Portuguese documentary photographer based in London and a Leica Ambassador.

In December 2014 José completed an MA in Photojournalism and Documentary Photography at the London College of Communication, where he lectures on the BA and MA Photojournalism and Documentary Photography courses. He is interested in covering stories about the current social uncertainty in Europe and other parts of the world. As well as analysing relevant contemporary world issues by focusing on people's personal stories, he also focuses his work on his diary photography - documenting what's around his day-to-day life.

Jose is a frequent contributor to The New York Times. He has also published his personal projects in outlets world wide including Newsweek, Financial Times, WIRED, The New Yorker. The New York Times and Suddeutsche Zeitung. Other clients includes, A+E Networks, HISTORY channel, Huck Magazine, Expresso, Jornal Publico, Noticias Magazine, Microsoft, Victionary, and Leica.

In 2015 the José was named one of the winners of "30 under 30" Magnum award for 'Young Documentary Photographers' with his project 'Turning The Page'. Developed in Portugal, the project focuses on the change in individuals who have been traumatised as a result of violent crimes. This project was also exhibited in several galleries in Portugal from November 2015 until late 2016.

José's work has been exhibited in galleries and other venues in cities including London, Oslo, Berlin, Birmingham, Stavanger and Paris. He was a member of 'Project Sea Change'; a documentary collective about today's young Europeans and how they are dealing with the social and financial crisis in Europe. 


The Sea Change photo book was published in January 2015. 

www.josesmatos.com

 
 

All images © José Sarmento Matos. Used here with permission.

purple strap.jpg