THE EYE International Photography Festival 2024 / Gŵyl Ffotograffiaeth Ryngwladol 2024

 

Ymlaciwch!

 

 

 

 

 

window shot.jpg

Canolfan wych, amgylchedd ymlaciol a golygfeydd bendigedig!

Dydd Gwener 5ed - Dydd Sul 7fed Hydref 2018

 

Mae'r Ganolfan Gelfyddydau hyfryd yn Aberystwyth wedi bod yn gartref i Ŵyl y LLYGAD ers ei sefydlu yn 2012. Gyda'i Theatr gyfforddus yn cynnwys 300 o seddi,  orielau amryfal, caffi/bwyty a bar - mae'n cynnig popeth sydd ei angen i lwyfannu gŵyl ffotograffiaeth ffantastig.

Mae'r ganolfan wych hon, un o'r gorau yng Nghymru, hefyd yn caniatau i ni drefnu gweithgareddau dan do neu yn yr awyr agored yn ogystal ag arddangosfa gystadleuol ar safle'r caffi  - sy'n croesawu ffotograffau'r ymgeiswyr terfynol o brosiect Instagram cyfranogol Cymru-gyfan Ffoton ar gyfer 2018: #portraitcymru

 

cafe scene.jpg
bar entrance.jpg
 
purple strap.jpg

 

Ac ymlaciwch ragor!

 

 

 

 

 

Aber sea horizon_small.jpg

Llety

Fel un o'r trefi ymwelwyr mwyaf poblogaidd ar arfordir pryderth Gorllewin Cymru, mae gan Aberystwyth ddigonedd o westai, cyfleusterau gwely a brecwast a thai i'w rhentu yn y dref a'r cyffiniau. A gan fod hi'n dref Brifysgol ceir yma nifer helaeth o gaffis, bwytai a barrau, llefydd diwylliannol diddorol i ymweld â nhw a digon i wneud yn ystod eich arhosiad. Mae gan y dref ddau draeth, hen gastell, glanfa, porthladd a'r rheilffordd glogwyn drydan hiraf ym Mhrydain ar Graig y Glais ym mhen gogleddol y promenâd.

Dewch â'ch camera!

Aberystwyth_hill.jpg

Lleolir Gwestai niferus gyda golygfeydd o'r môr a gyda chyfleusterau at ddant pawb ar y promenâd a cheir amrywiaeth o dai sy'n cynnig gwely a brecwast o gwmpas y dref ac yn yr ardal gyfagos.

I gael syniad o'r llety sydd ar gael, gweler y dolenni isod:

Ymweld â Chymru (Twristiaeth Cymru): Gwestai yn ardal Aberystwyth

TripAdvisor: Gwestai yn yr ardal

NODER: Mae'r dolenni uchod at bwrpasau enghreifftiol yn unig ac nid ydynt yn cael eu hargymell gan, neu'n gysylltiedig â Gŵyl y LLYGAD.  Ceir digonedd o wefannau eraill lle y gellir trefnu llety.

purple strap.jpg

Cyrraedd y Ganolfan

Lleolir Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth ar ganol Campws Penglais Prifysgol Aberystwyth, sy'n edrych allan ar draws y dref, ac sydd ar yr A487 sy'n mynd i'r gogledd ar Riw Penglais. Lleolir adeilad hyfryd Llyfrgell Genedlaethol Cymru ychydig i'r de o'r campws. Os ydych yn mwynhau cerdded, mae campws y Brifysgol ond yn 30 munud o waith cerdded i fyny'r allt o ganol y dref a'r promenâd. 

Ceir manylion llawn am y campws ar brif wefan y Brifysgol www.aber.ac.uk

Mynediad i'r Anabl
Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglyn â mynediad i'r anabl cyn eich ymweliad mae croeso i chi ffonio'r Ganolfan yn uniongyrchol ar 01970 622882.

Ceir cyfleusterau parcio i'r anabl yn agos at y brif fynedfa a lleolir rhagor o lefydd yn y prif faes parcio. Ceir mynediad ar y fflat i'r prif gyntedd. Ceir 4 o lefydd ar gyfer cadeiriau olwyn ar res flaen yr awditoriwm yn y Neuadd Fawr gyda mynediad lefel i'r stryd a phrif lawr y Ganolfan (gan gynnwys y Swyddf Docynnau a Chyntedd y Neuadd Fawr).

Gellir cyrraedd holl awditoria a gweithdai'r Ganolfan mewn cadair olwyn. Ceir lifft i fyny i gyntedd y theatr a lifft grisiau i lawr i'r lefel isaf.

Croesewir cŵn tywys a chŵn cymorth.

Ceir toiledau ar bob lefel heblaw'r cyntedd isaf. Ceir dolenni clyw yn y Neuadd Fawr, y Theatr a'r Sinema. 

Heb gar
Mae'n hawdd i gyrraedd y Ganolfan ar drên, bws, beic ac ar droed. Mae'r bws 03 yn mynd o'r dref/orsaf i'r Ganolfan bob 30 munud o Ddydd Llun tan Dydd Gwener yn ystod y tymor. Manylion llawn ar y dudalen deithio hon.

Ar y trên
Mae trenau'n rhedeg yn uniongyrchol i Aberystwyth o Birmingham, yr Amwythig, y Drenewydd a Machynlleth, bob 1-2 awr. Gweler amserlenni cyfredol y Rheilffordd Genedlaethol yma: Rheilffordd Genedlaethol

Gyda char
Trowch i mewn i gampws y Brifysgol (gweler arwydd clir ar yr A487) wrth i chi deithio i'r gogledd allan o ganol tref Aberystwyth i gyfeiriad Machynlleth - dilynwch y ffordd hon hefyd os ydych yn teithio i Aberystwyth ar ffordd arfordir yr A487 trwy Sir Benfro a Cheredigion. Os 'rydych yn dod i mewn i'r dref o'r Gogledd ar yr A487, trowch i'r chwith i mewn i'r campws.

Ceir meysydd parcio sylweddol ger bwys y Ganolfan ac ar y campws sy'n rhad ac am ddim i ymwelwyr ar ôl 5pm ac ar benwythnosau. Noder os gweler yn dda os ydych yn ymweld â'r Ganolfan yn ystod y dydd dylech ddilyn yr arwyddion i Faes Parcio'r Ymwelwyr.

Mapiau Google
Defnyddiwch y ddolen isod i ddod o hyd i'r Ganolfan ac i gynllunio'ch taith ar Fapiau Googlegoo.gl/maps/M1rjEFgyG782

Neu, defnyddiwch y map cyferbyn i weld lleoliad y Ganolfan a'r ardal o gwmpas Aberystwyth.

Cyfeiriad
Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth
Prifysgol Aberystwyth,
Campws Penglais,
Aberystwyth
SY23 3DE

Ffôn: 01970 623232
(Llun - Sad 10am - 8pm, Sul 1.30 - 5.30pm)

Ebostartstaff@aber.ac.uk

www.aberystwythartscentre.co.uk

 
purple strap.jpg