
Arddangosfeydd yn Ngŵyl y LLYGAD 2018
Nid yw Gŵyl ffotograffiaeth yn ymwneud â ffotograffwyr yn siarad ar lwyfan yn unig, a dyna paham yr ydym wedi ymdrechu'n galed wrth weithio efo'n partneriaid a Chanolfan y Celfyddydau Aberystwyth i gyflwyno amrywiaeth o arddangosfeydd ffotografiaeth yn ystod Gŵyl y LLYGAD.
Gwlad yr Iâ.
An Uneasy calm
Tim Rudman
Arddangosfa o brintiau du a gwyn gelatin arian aml-arlliw a wnaethpwyd â'r llaw ac a argraffwyd mewn ystafell dywyll draddodiadol o negatifau a gymerwyd yng Ngwlad yr Iâ dros gyfnod o wyth mlynedd gan y ffotograffydd tirwedd arobryn a'r argraffwr uchel ei barch Tim Rudman.
“Mae gan Wlad yr Iâ, ‘Tir y Tân a’r Iâ, deimlad cryf ac hollbresennol yn perthyn iddi, lle mae wybrennydd bygythiol yn amlygu’r dirwedd ddramatig ac weithiau annaearol a lle mae ellyllon yn stelcian gyda’r nos ac yn cael eu troi’n garreg yng ngolau dydd. Mae’n wlad o fyth ac hudoliaeth, o bŵer tanddaearol arswydus a golygfeydd ysblennydd.”
Argreffir y ffotograffau yn yr arddangosfa mewn du a gwyn, yn aml-arlliw yn gemegol, gan roi dyfnder ychwanegol i'r delweddau. Ystyrir Tim Rudman fel meistr ar argraffu ac mae ei sgiliau yn yr ystafell dywyll, ynghyd â'i sgiliau y tu ôl i'r camera, yn creu delweddau gyda theimlad dwysach a dyfnderoedd annisgwyl. Argreffir y gwaith ar bapur 'Ilford Multigrade Warmtone' yn seiliedig ar ffibr, a chefnogir yr arddangosfa yn garedig gan Ilford Photo.
Mae Tim Rudman yn ffotograffydd celf gain arobryn, yn argraffydd ystafell dywyll meistrolgar ac yn awdur pum llyfr ar ffotograffiaeth ac argraffu. Mae'n aelod o Salon Ffotograffiaeth Llundain, Bwrdd Ymgynghorol Dullrhydd Ffotograffwyr Proffesiynol Hollywood ac mae'n Gymrawd o'r Gymdeithas Ffotograffig Frenhinol. Cynrychiolir gwaith Tim mewn casgliadau cyhoeddus a phreifat niferus, gan gynnwys Amgueddfa Victoria & Albert yn Llundain.
Tir / Môr
Mike Perry
Dyma sioe solo newydd sylweddol, ynghyd â chyhoeddiad 'Ffotogallery', gan y ffotograffydd Mike Perry sy'n gweithio yng Nghymru. Mae ei waith yn ymwneud â materion amgylcheddol pwysig ac arwyddocaol, yn arbennig y tensiwn rhwng gweithredu dynol ac ymyriadau yn yr amgylchedd naturiol, a breuder ecosystemau'r blaned.
“Yn ogystal â gweld y darnau hyn fel symbolau o or-dreuliant a difaterwch tuag at yr amgylchedd, ‘rwy’n eu gweld hefyd fel tystiolaeth o brydferthwch a phŵer natur i gerflunio’n byd.”
Mae'r arddangosfa newydd sylweddol hon yn tynnu at ei gilydd cyrff diweddar o waith sy'n ystyried sut mae bioamryfalwch naturiol tirweddau a'r amgylcheddau morol yn cael ei danseilio a'i wneud yn wenwynig yn sgil difaterwch dynol, camreolaeth amaethyddol a'r dyhead am elw yn y tymor byr ar draul cynaliadwyedd tymor hir.
Gan gyfuno estheteg gysyniadol gyda chonsyrn dwys am yr amgylchedd morol, mae delweddau Perry yn taflu goleuni gwahanol ar iechyd y morluniau i'r hyn a gyflwynir mewn llyfrynnau twristiaeth. Mae 'Môr Plastig' yn gorff cyfredol o waith sy'n gosod eitemau a olchir i fyny gan y môr mewn grwpiau; poteli, esgidiau, gridiau, haniaethau, ac eraill. Trwy ddefnyddio camera eglurdeb-uchel i ddangos y manylion ar wyneb yr eitemau, mae'r artist yn caniatau i'r gwyliwr ‘ddarllen’ marciau a chreithiau a ysgythrir gan y môr dros fisoedd ac, mewn rhai achosion, blynyddoedd.
Mae Mike Perry yn artist ffotograffig cyfoes Prydeinig sy'n rhannu ei amser rhwng Llundain a Gorllewin Cymru lle mae'n addasu fferm ddefaid arfordirol yn safle ar gyfer pansaernïaeth a chelf gynaliadwy. Mae ei waith yn cael ei ddylanwadu'n gynyddol gan y dirwedd o'i gwmpas a phryderon amgylcheddol. Cynhwyswyd 'Môr Plastig' yn Ystafell Ddu a Gwyn Cornelia Parker yn yr Academi Gelfyddydau Frenhinol ym mis Gorffennaf 2014, a'r flwyddyn ganlynol yn y Vita Vitale, a guradir yn rhyngwladol, yn 56ed Arddangosfa Eilflwydd Fenis.
Pod y LLYGAD
Gosodwaith arddangosfeydd digidol
Arddangosfeydd Digidol ym Mhod y LLYGAD:
Gofod newydd ar gyfer ffotograffwyr ifanc ledled y byd.
'Rydym wrth ein bodd yn cyflwyno nifer o arddangosfeydd digidol yng ngosodwaith Pod arbennig y LLYGAD a leolir unwaith eto ym mhrif gyntedd y Ganolfan ger bwys y caffi.